Codi ymwybyddiaeth am y menopôs
Codi ymwybyddiaeth am y menopôs ac archwilio ffyrdd o gefnogi aelodau o’n tîm
o dan arweiniad Rhyl City Strategy.
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / Mudiad Meithrin
Mae’r sesiwn yn 90 munud o hyd ac yn cael ei gynnal ar-lein.
Mae’r menopôs yn digwydd i fenywod wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae fel arfer yn digwydd pan fo menyw rhwng 45 a 55 oed, ac mae’n digwydd oherwydd gostyngiad yn yr hormonau estrogen a progesterone. Mae rhai menywod yn cael symptomau ysgafn, ond mae llawer yn cael symptomau all gael effeithiau difrifol ar eu hiechyd a’u lles, yn ogystal ag effeithio’n negyddol ar eu bywyd cartref a’u gwaith. Mae yna lawer o ddulliau ac ymyraethau all gefnogi menywod i ffynnu yn ystod y menopôs, ac mae rhai o’r rhain yn berthnasol i’r gweithle
Yn ystod y sesiwn byddwn yn edrych ar chwalu’r stigma sy’n ymwneud â’r menopôs ac yn darganfod sut y gallwn helpu merched sy’n mynd drwyddo.
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn dysgu …
- Beth yw’r menopôs a pham mae’n digwydd
- Beth yw rhai o’r symptomau a sut mae’n effeithio ar fenywod yn y gwaith
- Sut allwn ni a pham y dylen ni gefnogi menywod sy’n mynd drwy’r menopôs
- Beth yw rhai o’r addasiadau rhesymol a allai fod o gymorth
Cyfrwng iaith y sesiwn: Cymraeg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Codi ymwybyddiaeth am y menopôs
- Dyddiad Cau: 2023-03-07
- Amser: 13:30 - 15:00
- Lleoliad: ar-lein