Cyflwyniad i Ymarfer Gwrth-hiliol yn y Blynyddoedd Cynnar a Dysgu Sylfaen
Cyflwyniad i Ymarfer Gwrth-hiliol yn y Blynyddoedd Cynnar a Dysgu Sylfaen
gyda Liz Pemberton (Cyfarwyddwr The Black Nursery Manager Training and Consultancy) a Rachel Clarke (Apex Educate)
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd ac aelodau Mudiad Meithrin
Bydd y cyflwyniad byw yma’n gosod y sylfaen i gyflwyno ymarfer gwrth-hiliol a beth mae’n ei olygu pan gaiff ei roi ar waith wrth weithio gyda phlant a theuluoedd mewn amgylchedd blynyddoedd cynnar neu addysg gynradd.
Byddwn yn archwilio syniadau ymarferol, llythrennedd hiliol, ac yn dechrau cydnabod sut fydd ein hunaniaethau personol a chymdeithasol yn cyfarwyddo sut byddwn yn gwneud y gwaith yma.
Darperir cinio ysgafn i fynychwyr.
PWYSIG: Mae problem dechnegol gyda’r system archebu- plîs dewiswch ‘postio tocyn i swyddfa Aberystwyth’ er mwyn arbed y ffi. Ni fydd cost i fynychu’r digwyddiad hwn. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Cyflwyniad i Ymarfer Gwrth-hiliol yn y Blynyddoedd Cynnar a Dysgu Sylfaen
- Dyddiad Cau: 2023-02-03
- Amser: 10:00 - 15:00
- Lleoliad: Canolfan Soar, Merthyr Tudful
- Cyfeiriad: Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB