Hunaniaeth Rhywedd ac Addysg Blynyddoedd Cynnar
Hunaniaeth Rhywedd ac Addysg Blynyddoedd Cynnar, gyda’r Athro Ben Hine, Prifysgol Gorllewin Llundain
Yn addas i: Staff Cylchoedd Meithrin, Staff Meithrinfeydd a Staff Mudiad Meithrin.
Bydd y sesiynau hyn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr blynyddoedd cynnar am ddatblygiad rhywedd yn ystod plentyndod, a dylanwadau positif ymarferwyr blynyddoedd cynnar a lleoliadau yn ystod y cyfnod hwn.
Rhennir y cwrs ar-lein hwn i 3 gweithdy 2 awr o hyd:
Gweithdy 1 – Cyflwyniad at Hunaniaeth Rhywedd a’i Ddatblygiad
26 Mehefin 7-9pm
Darperir trosolwg sylfaenol ynglŷn â’r hyn ry’n ni’n ei ddeall heddiw am hunaniaeth rhywedd a mynegiant, a rhennir damcaniaethau cyffredinol sy’n trafod tarddiad ein hymddygiadau ar sail rhywedd.
Gweithdy 2 – Archwilio dylanwad Ymarferwyr ar Ddatblygiad Rhywedd yn y Blynyddoedd Cynnar
03 Gorffennaf 7-9pm
Edrychwn yn agosach ar y dystiolaeth a rôl ymarferwyr blynyddoedd cynnar, ac effaith yr awyrgylch ddysgu ar ddatblygiad rhywedd plant.
Gweithdy 3 – Rhoi’r Ddamcaniaeth ar waith
17 Gorffennaf 7-9pm
Bydd hwn yn gyfle i ymarferwyr fyfyrio ar eu hymarfer, a sut y dymunant ddatblygu i’r dyfodol. Edrychir ar greu gweledigaeth yn seiliedig ar arferion da fydd yn caniatáu i blant wireddu eu potensial.
*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru mynychu’r 3 sesiwn.
Cynhelir y sesiynau drwy gyfrwng y Saesneg.
Hunaniaeth Rhywedd ac Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad Cau: 2023-06-26
- Amser: 19:00 - 21:00
- Lleoliad: Ar-lein