19
Ion

Hyfforddiant Diogelu Oedolion

11 tocynnau ar ôl Am ddim

Hyfforddiant Diogelu Oedolion gyda Paul Jones, Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol a hyfforddwr profiadol

Addas i: Staff  Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd /aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr/ staff Mudiad Meithrin.

O dan arweiniad Paul Jones, bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnig trosolwg o beth yw diogelu, mathau o gamdriniaeth, wynebu risg, caethwasiaeth fodern, dyletswydd PREVENT, ac iechyd a lles meddyliol. Bydd cyfle i drafod enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn.

Ar ddiwedd y cwrs fe fyddwch yn:

  • Deall gweithdrefnau newydd Diogelu Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
  • Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth ynghyd â’r arwyddion;
  • Deall mwy am gaethwasiaeth fodern, dyletswyddau PREVENT, ynghyd ag iechyd a lles meddyliol.
  • Hyderus i fedru cofnodi a chyfeirio lle’n briodol, a defnyddio Polisi Diogelu Mudiad Meithrin;
  • Gwybod pryd i gyfeirio oedolyn mewn risg heb ei ganiatâd

Cyfrwng iaith y sesiwn: Cymraeg

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Hyfforddiant Diogelu Oedolion

  • Dyddiad Cau: 2023-01-19
  • Amser: 13:00 - 15:00
  • Lleoliad: ar-lein