Hyfforddiant Diogelu Plant (1)
Hyfforddiant Diogelu Plant gyda Paul Jones, Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol a hyfforddwr
Yn addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / aelodau pwyllgorau rheoli gwirfoddol/ staff Mudiad Meithrin.
Dyma gwrs pwysig ar gyfer unigolion sy’n gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae. Bydd y cwrs hwn yn edrych yn benodol ar gyfrifoldebau staff pan fo pryderon yn codi ynglŷn â lles plant ifanc. Cynhelir yr hyfforddiant dros ZOOM mewn dwy ran:
10/01/23 1-3pm
a 24/01/23 1-3pm
*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru ddilyn y 2 sesiwn.
Nid yw’r cwrs hwn wedi ei achredu ond darperir tystysgrif.
Cyfrwng iaith y sesiynau: Cymraeg.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Hyfforddiant Diogelu Plant (1)
- Dyddiad Cau: 2023-01-10
- Amser: 13:00 - 15:00
- Lleoliad: ar-lein