01
Chw

Hyfforddiant Diogelu Plant (2)

8 tocynnau ar ôl Am ddim

Hyfforddiant Diogelu Plant gyda Paul Jones, Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol a hyfforddwr profiadol

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / aelodau pwyllgorau rheoli gwirfoddol / staff Mudiad Meithrin.

Dyma gwrs pwysig ar gyfer unigolion sy’n gweithio ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae. Bydd y cwrs hwn yn edrych yn benodol ar gyfrifoldebau staff pan fo pryderon yn codi ynglŷn â lles plant ifanc. Cynhelir yr hyfforddiant dros ZOOM mewn dwy ran:

01/02/23 1-3pm

a 08/02/23 1-3pm

*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru ddilyn y 2 sesiwn.

Nid yw’r cwrs hwn wedi ei achredu ond darperir tystysgrif.

Cyfrwng iaith y sesiynau: Cymraeg

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Hyfforddiant Diogelu Plant (2)

  • Dyddiad Cau: 2023-02-01
  • Amser: 13:00 - 15:00
  • Lleoliad: ar-lein