16
Tac

Nodau Natur 2 – taith gerddorol o gwmpas y byd! (2)

2 tocynnau ar ôl Am ddim

Nodau Natur 2 – taith gerddorol o gwmpas y byd!

Gyda Nia Beynon, Ymgynghorydd a Hyfforddwraig y Blynyddoedd Cynnar

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd a staff Mudiad Meithrin

Yn dilyn llwyddiant yr adnodd Nodau Natur, daeth yr amser inni adael am daith arall gyffrous o gwmpas y byd, trwy fyd anhygoel y rhigymau! Croeso i Nodau Natur 2!

Dewch i ymweld â gwlad Tsieina, i glywed yr iaith Mandarin a chyfarfod y ddau deigr rhyfedd- un sydd heb glustiau, a’r llall heb gynffon!

Beth am wrando ar hwiangerdd hudol yr iaith Pashto, Affganistan? Cewch eich swyno gan y gân Allaho ac mae’r sŵn hudolus yn denu cwsg i’r baban. Dewch i glywed hanes y zango sy’n suo’r plentyn bach i gysgu.

Wrth ddefnyddio’r adnodd bydd cyfle i blant glywed a dysgu am rhigymau a chaneuon o ieithoedd eraill hefyd megis Cwrdaidd, Sbaeneg, Eidaleg a Somali, yn ogystal â rhai traddodiadol Gymraeg!

Dewch gyda ni ar daith gyffrous arall o gwmpas y byd trwy fyd y rhigymau! Byddwch yn barod i wrando ar seiniau swynol ieithoedd y byd a thrafod dulliau o’u cyflwyno i blant ifanc trwy grefftwaith a phrofiadau synhwyrus.

Ar ôl cwblhau’r sesiwn hon, byddwch yn:

  • Ymwybodol o gynnwys yr adnodd ‘Nodau Natur 2’
  • Cael y cyfle i ystyried ymhellach arwyddocâd rhigymau ar ddatblygiad plentyn
  • Cael ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dathlu amrywiaeth a chyfoeth y diwylliannau sydd o’n cwmpas

Cyfrwng iaith y sesiwn: Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd

 

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Nodau Natur 2 - taith gerddorol o gwmpas y byd! (2)

  • Dyddiad Cau: 2022-11-16
  • Amser: 19:00 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein