Sesiwn Holi ac Ateb – Gwirfoddoli ar Bwyllgor Cylch Meithrin (1)
Sesiwn Holi ac Ateb – Gwirfoddoli ar Bwyllgor Cylch Meithrin
Addas i: Gwirfoddolwyr a Phwyllgorau Cylchoedd Meithrin
Dyma sesiwn anffurfiol ond llawn gwybodaeth a fydd yn eich cyflwyno i rôl wirfoddol ar bwyllgor Cylch Meithrin.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal o dan arweiniad Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr Talaith Mudiad Meithrin.
Yn ystod y sesiwn cewch gyfle i ddysgu mwy am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael. Efallai eich bod â’ch bryd ar rannu eich profiadau a chyfrannu fel Trysorydd, Ysgrifennydd neu Gadeirydd. Neu efallai eich bod wrth eich bodd yn cynnal digwyddiadau ac yn codi arian a denu mwy o deuluoedd a phlant bach i fwrlwm y Cylch.
Fel gwirfoddolwr fe fyddwch chi hefyd yn elwa yn bersonol – yn dod i adnabod ffrindiau newydd, yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol ac yn ymuno â theulu mawr Mudiad Meithrin!
Cynhelir y sesiwn dros Teams a rhennir y ddolen ar ôl i chi gofrestru.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Sesiwn Holi ac Ateb - Gwirfoddoli ar Bwyllgor Cylch Meithrin (1)
- Dyddiad Cau: 2023-06-21
- Amser: 14:00 - 15:00
- Lleoliad: Ar-lein