22
Mai

Sesiwn Holi ac Ateb – Gwirfoddoli ar Bwyllgor Cylch Meithrin (2)

996 tocynnau ar ôl £100

Sesiwn Holi ac Ateb – Gwirfoddoli ar Bwyllgor Cylch Meithrin

Addas i: Gwirfoddolwyr a Phwyllgorau Cylchoedd Meithrin

Dyma sesiwn anffurfiol ond llawn gwybodaeth a fydd yn eich cyflwyno i rôl wirfoddol ar bwyllgor Cylch Meithrin.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal o dan arweiniad Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr Talaith Mudiad Meithrin.

Yn ystod y sesiwn cewch gyfle i ddysgu mwy am y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael. Efallai eich bod â’ch bryd ar rannu eich profiadau a chyfrannu fel Trysorydd, Ysgrifennydd neu Gadeirydd. Neu efallai eich bod wrth eich bodd yn cynnal digwyddiadau ac yn codi arian a denu mwy o deuluoedd a phlant bach i fwrlwm y Cylch.

Fel gwirfoddolwr fe fyddwch chi hefyd yn elwa yn bersonol – yn dod i adnabod ffrindiau newydd, yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol ac yn ymuno â theulu mawr Mudiad Meithrin!

Cynhelir y sesiwn dros Teams a rhennir y ddolen ar ôl i chi gofrestru.

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Sesiwn Holi ac Ateb - Gwirfoddoli ar Bwyllgor Cylch Meithrin (2)

  • Dyddiad Cau: 2025-05-22
  • Amser: 18:00 - 19:00
  • Lleoliad: Ar-lein