12
Meh

Sesiwn Wybodaeth – Newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (2)

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Sesiwn Wybodaeth – Newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a reoleiddir

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / Mudiad Meithrin

Mae newidiadau a diwygiadau pwysig wedi’u gwneud i rai o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy’n effeithio ar eich lleoliadau gofal plant chi.

Yn y sesiwn wybodaeth hon, bydd Leanne Marsh, Pennaeth Gwasanaethau Mudiad Meithrin yn eich arwain drwy’r newidiadau hyn gan ddarparu cyngor a gwybodaeth i chi fel aelodau Mudiad Meithrin.

Yn eich rôl yn cefnogi darparwyr gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, dylech ymgyfarwyddo â’r newidiadau hyn a rhoi ar waith unrhyw newidiadau sy’n berthnasol i chi gan ddefnyddio’r canllawiau diwygiedig newydd.

Cyfrwng iaith y sesiwn: Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd.


Sesiwn Wybodaeth – Newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (2)

  • Dyddiad Cau: 2023-06-12
  • Amser: 18:30 - 19:30
  • Lleoliad: Ar-lein