23
Mai

Sut gallwn gryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y Cylch Meithrin? Hyfforddiant i ARWEINYDDION Cylchoedd Meithrin gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith

12 tocynnau ar ôl Am ddim

Hyfforddiant i Arweinyddion Cylchoedd Meithrin gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith

Sut gallwn gryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y Cylch Meithrin?

Cynhelir yr hyfforddiant mewn dwy ran ar y dyddiau canlynol:

23 Mai a 4 Gorffennaf 6-8pm.

*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru ddilyn y ddau sesiwn.

 

Yn y cwrs byddwn yn trafod:

  • pryd ydych chi’n defnyddio Cymraeg a phryd a pham ydych chi’n troi at y Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg
  • beth sy’n rhwystro chi rhag defnyddio’r Gymraeg a beth yw’r heriau
  • syniadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn gadarn
  • creu cynllun i gynyddu defnydd personol o’r Gymraeg

Ar ôl cwblhau y ddau sesiwn byddwch yn fwy cadarn a hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y Cylch.

Cyfrwng y sesiwn: Cymraeg 

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Sut gallwn gryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y Cylch Meithrin? Hyfforddiant i ARWEINYDDION Cylchoedd Meithrin gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith

  • Dyddiad Cau: 2023-05-23
  • Amser: 18:00 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein