Sut gallwn gryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y Cylch Meithrin? Hyfforddiant i holl YMARFERWYR Cylchoedd Meithrin gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith (2)
Hyfforddiant i holl ymarferwyr Cylchoedd Meithrin gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith
Sut gallwn gryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y Cylch Meithrin?
Cynhelir yr hyfforddiant mewn dwy ran ar y dyddiau canlynol:
25 Mai a 06 Gorffennaf rhwng 6-8pm
*Bydd angen i bawb sy’n cofrestru ddilyn y ddau sesiwn.
Yn y cwrs byddwn yn trafod:
- pryd ydych chi’n defnyddio Cymraeg a phryd a pham ydych chi’n troi at y Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg
- beth sy’n rhwystro chi rhag defnyddio’r Gymraeg a beth yw’r heriau
- syniadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn gadarn
- creu cynllun i gynyddu defnydd personol o’r Gymraeg
Ar ôl cwblhau y ddau sesiwn byddwch yn fwy cadarn a hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y Cylch.
Cyfrwng y sesiwn: Cymraeg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Sut gallwn gryfhau ein defnydd o’r Gymraeg yn y Cylch Meithrin? Hyfforddiant i holl YMARFERWYR Cylchoedd Meithrin gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith (2)
- Dyddiad Cau: 2023-05-25
- Amser: 18:00 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein