Ysgrifennu Ceisiadau Grant (2)
Ysgrifennu Ceisiadau Grant
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd Dydd ac aelodau pwyllgor gwirfoddol.
Dyma sesiwn wybodaeth o dan arweiniad Caryl Lewis o gwmni Celyn. Bydd Caryl yn eich arwain drwy’r broses o ysgrifennu ceisiadau grant a chodi arian. Darperir adnoddau a chanllawiau pwrpasol hefyd i’r rhai sy’n mynychu’r sesiwn.
Yn ystod y sesiwn cewch:
- Drosolwg o brosesau cyflwyno a dyfarnu grantiau
- Gwybodaeth ynglŷn â sut i baratoi eich cais
- Arweiniad ar ble i chwilio am gronfeydd arian amrywiol
- Syniadau ynglŷn â chodi arian
Erbyn diwedd y sesiwn fe fyddwch yn:
- Deall prosesau a gofynion cyflwyno ceisiadau grant
- Hyderus wrth gyflwyno ceisiadau grant ar ran eich lleoliad
- Adnabod cyfleoedd newydd i ariannu cynlluniau
Cyfrwng iaith y sesiwn: Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Ysgrifennu Ceisiadau Grant (2)
- Dyddiad Cau: 2022-10-18
- Amser: 18:00 - 19:30
- Lleoliad: ar-lein