Mae’r Goeden Ioga yn gyfres o sesiynau ymarferol hwyliog i blant ac oedolion yn y Cylch Meithrin/Meithrinfa Ddydd sy’n seiliedig ar lyfr Leisa Mererid – Y Goeden Ioga.
Mae hwn yn lyfr stori a llun sy’n mynd â ni i fyd natur a chylch bywyd yr hedyn wrth iddo egino a thyfu’n goeden fawr a chryf. Cam wrth Gam, bydd Leisa yn eich tywys drwy’r llyfr ac yn llifo o un siâp ioga syml i’r llall.
I ddechrau’r cwrs cliciwch yma.

Rôl yr Oedolyn/Arweinydd
Addas i: staff Cylchoedd Meithrin Meithrinfeydd Dydd
Dyma gyflwyniad sydd wedi’i greu yn arbennig i aelodau Mudiad Meithrin gan Pavla Boulton a Dr Amanda Thomas, darlithwyr Y Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol De Cymru. Mae’r cyflwyniad wedi’i recordio’n fyw.
Ar ôl gwylio’r cyflwyniad hwn, byddwch yn:
- Deall gwahanol rolau’r oedolyn mewn lleoliad blynyddoedd cynnar
- Deall y ffyrdd y mae oedolion yn dylanwadu ar chwarae plant, gan gynnwys chwarae sydd â risg
- Medru myfyrio ar eich arferion eich hunan ac ystyried meysydd personol i’w datblygu.
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma.

Datblygu Sgemâu drwy chwarae yn yr awyr agored
Addas i: staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd
Dyma’r ail gyflwyniad sydd wedi’i greu yn arbennig i aelodau Mudiad Meithrin gan Pavla Boulton a Dr Amanda Thomas, darlithwyr Y Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol De Cymru. Mae’r cyflwyniad wedi’i recordio’n fyw.
Bydd y cyflwyniad hwn yn eich helpu i:
- Ddysgu beth yw rhannau rhydd a sgemâu a sut maent yn cyd-fynd â’i gilydd
- Ddatblygu eich dealltwriaeth o wahanol ddulliau dysgu a datblygiad plant bach
- Wella eich dealltwriaeth o sut mae sgemâu yn perthyn i’r cwricwlwm newydd
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma.
Adnodd Newydd
Bydd y pecyn e-ddiogelwch newydd yma yn rhoi trosolwg o e-ddiogelwch yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r pecyn yn cynnig braslun o bolisiau e-ddiogelwch a delweddau a fideos digidol 2022, ac yn cyflwyno adnoddau newydd a syniadau i rannu negeseuon e-ddiogelwch i blant a’u teuluoedd.
Wedi ichi astudio cynnwys y pecyn hwn, byddwch yn:
- Deall sut mae plant yn y blynyddoedd cynnar yn defnyddio dyfeisiadau a sut i’w cefnogi
- Deall mwy am bolisiau e-ddiogelwch a delweddau a fideos digidol 2022
- Gwybod am yr adnoddau a syniadau newydd, a sut i’w defnyddio
Lawrlwythwch eich pecyn wrth glicio yma heddiw.
Addas i: Holl staff Mudiad Meithrin, staff Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi, Meithrinfeydd Dydd.
Mae Mudiad Meithrin am ddarparu cefnogaeth i’ch galluogi i ofalu am eich iechyd a’ch lles meddyliol ac emosiynol yn ystod cyfnod COVID 19.
Bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi cyngor ar sut i gynllunio i warchod eich iechyd a’ch lles ac yn rhoi sylw i faterion megis: arferion gweithio o adre, lles meddyliol ac emosiynol plant, a ffynonellau cymorth.
Ar ôl darllen y cyflwyniad fe fyddwch yn
- deall pwysigrwydd hunan ofal yn ystod cyfnod COVID 19
- ymwybodol o’r gwahanol ffynonellau cymorth sydd ar gael i’ch cefnogi
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch ar y linc: Iechyd a Lles meddyliol ac emosiynol yn ystod cyfnod COVID19
Cyflwyniad ar Asesu Risg
Dyma adnodd defnyddiol i’ch arwain drwy’r broses o gynnal asesiad risg ar gyfer eich lleoliad.
Ar ôl darllen y cyflwyniad fe fyddwch yn:
- Deall pam fod asesu risg mor bwysig;
- Medru adnabod gwahanol fathau o risgiau o fewn y lleoliad;
- Deall sut mae mynd ati i gynnal asesiad risg, a sut i fynd ati i leihau’r risg;
- Bod yn fwy hyderus wrth lenwi ffurflenni asesiad risg;
- Gwybod pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu yn ystod cyfnod pandemig Cofid-19.
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma
Dwylo Diogel – Pecyn hylendid Mudiad Meithrin
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:
- Cyflwyniad sy’n rhannu gwybodaeth a chanllawiau hylendid i Gylchoedd Meithrin sy’n ailagor yn dilyn cyfnod ar gau oherwydd COVID-19;
- Fideo o gân ar thema ‘golchi dwylo’ y gellir ei chanu yn y lleoliad;
- Syniadau a gweithgareddau ar gyfer y plant.
Hefyd, ceir casgliad o bosteri ac adnoddau defnyddiol i’w argraffu a’u defnyddio yn y lleoliad.
I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma