Croeso
Y blynyddoedd cyntaf ym mywyd plentyn yw’r rhai mwyaf arwyddocaol o safbwynt ei ddatblygiad. Mae Cylch Meithrin yn cynnig nifer o brofiadau gwerthfawr i bob plentyn bach. Mae datblygiad llwyddiannus y Cylch Meithrin yn dibynnu’n helaeth ar gefnogaeth rhieni/gofalwyr a’r gymuned leol.
Rhieni/gofalwyr ac aelodau’r gymuned sy’n gyfrifol am ffurfio Pwyllgor Rheoli ac yn y man, y pwyllgor hynny fydd yn gyfrifol am sefydlu a rheoli pob agwedd o waith y Cylch Meithrin.
Bydd y Pwyllgor Rheoli Gwirfoddol yn gyfrifol am reolaeth a gweithrediad dydd i ddydd y Cylch Meithrin gan gynnwys materion ansawdd a Safon (AGC ac Estyn). Bydd y Pwyllgor yn gallu cyfethol eraill o’r gymuned leol i gynorthwyo gyda’r gwaith.
Y Pwyllgor Rheoli Gwirfoddol fydd yn gyfrifol am weithredu fel cyflogwr gan gynnwys penodi, cyflogi, cefnogi a rheoli staff gan dynnu ar gyngor ac arbenigedd Mudiad Meithrin ac eraill.
Nod y Llyfr Mawr Piws yw cynnig arweiniad trwy wybodaeth drylwyr ar sut i reoli Cylch Meithrin a darpariaeth gofal plant yn llwyddiannus ynghyd ag enghreifftiau o dempledi a ffurflenni defnyddiol.
Ceir adrannau sydd yn berthnasol at waith y Pwyllgor Rheoli ac adrannau sydd yn berthnasol at waith staff y Cylch Meithrin.
Mae’r Llyfr Mawr Piws yn adnodd byw ac ymarferol sydd yn eich tywys drwy holl ofynion a busnes y Cylch Meithrin gan gynnig atodiadau cyfredol a linciau i wefannau perthnasol.
Anogir pwyllgorau a staff y Cylchoedd i ddefnyddio’r Canllaw yma fel man cychwyn i unrhyw waith perthnasol gan gofio bod modd cysylltu â’ch Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd lleol am gefnogaeth bellach.
Mae’r Llyfr Mawr Piws ar gael yn ddigidol drwy fewnrwyd Mudiad Meithrin, hwn yw’r copi cyfredol ac yma bydd unrhyw ddiweddariadau’n ymddangos
CYFLWYNIAD
Diolch am wirfoddoli i fod yn rhan o bwyllgor rheoli’r Cylch Meithrin. Cyfrifoldeb cyfreithiol y pwyllgor yw rhedeg y Cylch Meithrin a bwriad y canllaw yma yw rhoi cymorth ac arweiniad i bwyllgorau. Mae dros 400 o gylchoedd meithrin llwyddiannus yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Nid oes disgwyl i aelodau’r Pwyllgor fod yn arbenigwyr – mae staff Mudiad Meithrin yma i’ch helpu.
Mudiad Meithrin yw prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Gyda dros 180 o staff proffesiynol ar draws Cymru, mae’r Cylch Meithrin yn gallu tynnu ar arbenigedd gweithwyr ar lefel Cymru gyfan (Atodiad 1 Strwythur Staffio ac Atodiad 1a Strwythur Cyfathrebu Cylch Meithrin). Wrth ymaelodi â Mudiad Meithrin disgwylir i bob Cylch Meithrin gydymffurfio â Pholisi Iaith Mudiad Meithrin a dilyn Nod ac Amcanion Mudiad Meithrin (Atodiad 2 Nod ac Egwyddorion Mudiad Meithrin), sef:
- Bod caffael yr iaith Gymraeg o fantais i blant
- Dylid sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael mynediad i wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar o fewn cyrraedd hwylus i’w cartref
- Bod dilyniant i addysg Gymraeg yn hanfodol i bob plentyn sy’n mynychu ein darpariaethau
- Bod chwarae yn sylfaenol i ddatblygiad plant yn gorfforol, yn emosiynol, yn ieithyddol, yn gymdeithasol ac yn ddeallusol
- Bod plant, waeth beth fo’u hangen, yn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o ansawdd dda
- Bod y teulu yn sylfaen i ddatblygiad plant
- Bod hawliau plant yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant a Deddf Plant 2004 yn holl bwysig.
Er bod disgwyl i’r Cylch Meithrin weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes disgwyl i bob aelod o’r pwyllgor fedru siarad Cymraeg. Rydym yn croesawu ac yn annog pobl o bob cefndir fod yn rhan o bwyllgor y Cylch Meithrin.
Yn y canllaw yma rydym wedi rhannu’r gwaith i 4 adran:
Materion Cyffredinol a Sut i Redeg Cyfarfodydd
Cyllid
Staffio
Iechyd a Diogelwch