Mae templed Polisi Diogelu Plant i Gylchoedd Meithrin ar gael yma. Esbonia’r polisi pa gamau fydd y cylch yn eu dilyn os oes pryder fod plentyn mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod a/neu niwed. Mae Ffurflen Gofnodi Pryder am Blentyn yn atodiad defnyddiol i’r polisi.
Cafodd y templed polisi ei ddiweddaru yng Ngwanwyn 2021 – isod mae dogfen o bwyntiau bwled dwyieithog sy’n sôn am y prif newidiadau
Mae templed Pecyn Polisiau a Chanllawiau Diogelu Oedolion ar gael yma. Esbonia’r polisiau pa gamau fydd y cylch y neu dilyn os oes pryder fod oedolyn mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod a/neu niwed. Mae’r pecyn yn cynnwys y polisiau canlynol:
- Diogelu Oedolion sy’n wynebu risg
- Trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol
- Masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern
- Iechyd a lles meddyliol
- Canllawiau ar gyfer gweithredu’r ddyletwydd ATAL
Siart Lif: Beth am argraffu’r Siartiau Llif i’w rhoi fyny mewn swyddfa neu fan gweladwy i staff i’ch atgoffa am y camau i’w dilyn os oes pryder am ddiogelwch plentyn neu oedolyn? Ewch i waelod y dudalen i’w lawrlwytho.
Ffeil Diogelu Plant: mae’r ffeil yn cynnwys arweiniad am arfer dda ynghylch cofnodi pryder a gwneud adroddiad, beth i wneud pan fo plentyn yn datgelu camdriniaeth, ac mae’n cynnwys ffurflen gofnodi, ffurflen gronoleg, ffurflen anaf – ewch i waelod y dudalen i’w lawrlwytho.