
Lansiwyd Dewin, cymeriad unigryw Mudiad Meithrin, yn 2009. Bwriad Dewin yw annog pob plant sy’n mynychu Cylch Meithrin i siarad Cymraeg. Dim ond Cymraeg mae Dewin yn ei siarad a’i ddeall – mae hyn yn holl bwysig. Mae Dewin yn rhan o weithgareddau dyddiol y cylch ac yn cael ei adnabod fel ffrind plant bach Cymru.
Mae Dewin yn byw yn y Balalŵn fawr yn yr awyr gyda’i ffrind ffyddlon Doti – y ci bach annwyl. Mae’r Balalŵn yn cael ei bweru gan blant yn siarad Cymraeg yn y cylchoedd, a phan fo’r plant yn siarad Cymraeg, mae’r Balalŵn yn hedfan yn uchel yn yr awyr ac mae Dewin a Doti yn hapus iawn!
Mae Doti, ffrind bach Dewin yn boblogaidd iawn. Mae Doti yn mynd ar ei gwyliau adref gyda phlant sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i siarad Cymraeg neu wedi bod yn garedig gan helpu eraill yn y cylch. Mae taflen ar gael ar y fewnrwyd i fynd adre gyda Doti fel bod rhieni/gofalwyr’n gwybod pwy yw hi a beth yw ei phwrpas.
Gwisg Dewin
Mae modd llogi gwisg Dewin ar gyfer achlysuron arbennig yn y cylch. Mae’n hanfodol bod Pwyllgor a staff y cylch yn darllen Canllawiau Gwisg Dewin cyn ei defnyddio. Bydd disgwyl i bob cylch hefyd arwyddo Cytundeb Defnyddio Gwisg Dewin cyn ei defnyddio. Cysylltwch â’ch Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd i logi’r wisg.
Pecyn Adnoddau Dewin
Mae pob Cylch Meithrin wedi derbyn Pecyn Adnoddau Dewin sy’n cynnwys y canlynol:
- Pyped Dewin
- Tegan meddal Doti
- Het Hud Dewin
- Llyfr 1 – Dewin, Doti a’r Balalŵn
- Llyfr 2 – Dewin a Doti yn y Cylch Meithrin
- Canllawiau defnyddio Dewin
- CD o ganeuon Dewin
- Canllawiau a Chytundeb Defnyddio Gwisg Dewin
Hyfforddiant a DVD
Cynhaliwyd hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r pyped Dewin ym Medi 2010. Mae DVD hyfforddiant ‘Defnyddio Dewin’ wedi ei ddosbarthu i bob cylch meithrin. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd lleol.
Adnoddau Dewin
Mae logos a thempledi Dewin ar gael isod.
Mae nifer o ddeunyddiau Dewin (llyfrau, mygiau, pensiliau lliw, tegan meddal Doti) ar werth trwy’r Siop.