Rhestr Termau
Isod mae rhestr o dermau sy’n cael eu defnyddio’n aml mewn Cylchoedd Meithrin. Bydd y Cylch Meithrin yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau, partneriaethau a chynlluniau cenedlaethol. Dyma grynodeb byr o’r prif rai:
- Mudiad Meithrin – Mudiad gwirfoddol sy’n arbenigo ym maes Gofal ac Addysg Blynyddoedd Cynnar. meithrin.cymru. Rhif ffôn swyddfa Aberystwyth 01970 639639
- Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) – Corff rheoleiddio sector gofal plant. Mae’n rhaid i’r Cylch Meithrin gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2010. Mae’r rheoliadau wedi’u crynhoi i mewn i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac ar gael ar wefan AGC arolygiaethgofal.cymru a gwefan Mudiad Meithrin www.meithrin.cymru.
- Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2010 – http://www.legislation.gov.uk/wsi/2010/2574/contents/made/welsh
- Safonau Gofynnol Cenedlaethol – https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-06/safonau-gofynnol-cenedlaethol-ar-gyfer-gofal-plant-wedi-i-reoleiddio.pdf
- Cynnig Gweithredol (Active Offer) – Modd o sicrhau bod yr un safon o wasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg (pob Cylch Meithrin yn bodloni’r safon yma).
- Person Cofrestredig – Unigolyn sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros sicrhau bod y Cylch Meithrin yn cydymffurfio â gofynion AGC.
- Unigolyn Cyfrifol – Unigolyn a enwebwyd gan y pwyllgor i fod yn gyswllt gydag AGC (cyfrifoldeb cyfreithiol yn aros gyda’r pwyllgor cyfan).
- Person â Gofal – Y person sydd â chyfrifoldeb dyddiol o redeg y Cylch Meithrin.
- Comisiwn Elusennau – Corff sy’n rheoleiddio gweithgareddau grwpiau elusennol gov.uk/government/organisations/charity-commission.
- Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE/CIO) – Ffordd o gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau sy’n rhoi mwy o ddiogelwch i bwyllgorau/ymddiriedolwyr.
- Ymddiriedolwyr – Yw’r unigolion sy’n eistedd ar gorff llywodraethu’r elusen. Fe’u hadnabyddir fel ymddiriedolwyr neu aelodau pwyllgor, maent yn gyfrifol am reolaeth a gweinyddiaeth yr elusen.
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) – Cefnogi’r sector gwirfoddol yng Nghymru. www.wcva.cymru/cy/hafan/.
- Busnes Cymru – Gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru. https://businesswales.gov.wales/cy
- Cyfnod Sylfaen – Fframwaith ar gyfer dysgu plant o 3–7 oed yng Nghymru. https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-cymru-2008/cyfnod-sylfaen/proffil-y-cyfnod-sylfaen-canllawiau-i-ymarferwyr
- Addysg Plant 3 oed – Hawl plentyn i gael rhwng 10 awr – 15 awr o addysg yr wythnos am ddim y tymor yn dilyn eu 3ydd pen-blwydd (yn ddibynnol ar y sir).
- Estyn – Y swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae pob Cylch Meithrin sy’n derbyn Arian Plant 3 oed yn cael eu harolygu gan Estyn www.estyn.llyw.cymruhttp://www.estyn.llyw.cymru
- Dechrau’n Deg – Rhaglen gan Lywodraeth Cymru wedi’i thargedu at rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Gofal plant o ansawdd am ddim am 12½ awr yr wythnos i blant 2–3 oed https://llyw.cymru/dechraun-deg
- Gofal Cymdeithasol Cymu – nod Gofal Cymdeithasol Cymru yw sicrhau bod y gweithlu yng Nghymru yn meddu ar y sgiliau a’r cymwysterau priodol i weithio i safonau proffesiynol uchel, ac yn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel www.gofalcymdeithasol.cymru
- Cynnig Gofal Plant (30 awr) – cynllun Llywodraeth Cymru i gynnig hyd at 30 awr o ofal am ddim i blant 3 a 4 oed sydd â’u rhieni yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd lleol https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch
- Gofal Plant Di-dreth – mae Gofal Plant Di-dreth yn fenter gan y Llywodraeth sy’n cymryd lle Cynllun Talebau Gofal Plant. Ar gyfer teuluoedd fydd yn gymwys, bydd Gofal Plant Di-dreth yn talu am 20% o gostau gofal plant. Rhaid i’r Cylch Meithrin gofrestru gyda https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol
- GDG (DBS) – Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Proses o wirio addasrwydd unigolion i weithio gyda phlant.
- uCheck – Y cwmni mae Mudiad Meithrin yn ei ddefnyddio i wneud gwiriadau GDG ucheck.co.uk.
- Cool Milk – Cynllun sy’n cynnig llefrith/llaeth am ddim i blant dan 5 oed coolmilk.com.
- Cynllun Cyfeirio – Cynllun i alluogi plant ag anghenion ychwanegol i fanteisio ar brofiadau Cylch Meithrin (ar gael mewn rhai ardaloedd yng Nghymru).
- Cymraeg i Blant – Cynllun i gynyddu nifer y plant oed meithrin sy’n siarad Cymraeg meithrin.cymru/cymraeg-i-blant.
- Academi – Adran hyfforddiant Mudiad Meithrin sydd â’r nod o ddarparu ystod eang o gyfleoedd datblygu a hyfforddi i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n rhan o gymuned Mudiad Meithrin meithrin.cymru/academi-aelodau
- Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin – Cynnal cyrsiau achrededig yn y blynyddoedd cynnar er mwyn galluogi unigolion i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar meithrin.cymru.
- Safonau Serennog – Cynllun ansawdd Mudiad Meithrin ar gyfer Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd.
- Llyfrau Bach Piws – Canllaw sydyn i bwyllgorau a staff ar agweddau o waith y pwyllgor a’r cylch. Mae llyfr Bach Piws ar gael ar gyfer
- Staffio
- Cyllid
- Diogelu Plant
- Estyn
- AGC
- I Bwyllgorau
- Materion Elusennol
- Y Cylch yn yr awyr agored
- Cychwyn Gorau – Cynllun Mudiad Meithrin i hybu dilyniant i addysg Gymraeg.
- CWLWM – partneriaeth o sefydliadau gofal plant yng Nghymru cwlwm.org.uk.
- Dewin a Doti – Cymeriadau hoffus Mudiad Meithrin.
- Cylch Ti a Fi – Cyfle i rieni/gofalwyr gwrdd yn rheolaidd i gymdeithasu a chwarae efo’u plant.
- Clwb Cwtsh – Cwrs blasu 8 wythnos rhad ac am ddim wedi’i anelu at ddysgwyr newydd. Yn cael ei redeg gan Mudiad Meithrin.
- Mewnrwyd – Llyfrgell gynhwysfawr o adnoddau a gwybodaeth ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin. Bydd pob pwyllgor ac arweinydd y Cylch Meithrin yn derbyn cyfrinair i gael mynediad at holl adnoddau Mudiad Meithrin.
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – Cytundeb rhyngwladol sy’n diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed https://llyw.cymru/hawliau-plant-yng-nghymru
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod – Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod. diogelu.cymru
- ACAS (Advisory, Conciliation and Arbitration Service) – Asiantaeth sy’n cynnig cyngor a hyfforddiant i gyflogwyr a chyflogai ar faterion cyflogaeth acas.org.uk.
- Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Health and Safety Executive) – Asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle hse.gov.uk.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru – Asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Rhaid adrodd ar afiechydon heintus iddynt hwy publichealthwales.wales.nhs.uk.
- Iechyd yr Amgylchedd – Asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am weinyddu a rheoleiddio safonau glendid mewn llefydd cyhoeddus, gweler gwefan eich awdurdod lleol.
- Asiantaeth Safonau Bwyd – Asiantaeth y Llywodraeth sy’n gwella diogelwch a safonau bwyd yng Nghymru a diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd. Rhain fydd yn rhoi’r sgôr hylendid i gylchoedd meithrin food.gov.uk.
- Datganiad o Ddiben – Mae’n orfodol i bob Cylch Meithrin ddarparu’r ddogfen yma sy’n esbonio gwasanaeth a gweithredoedd y Cylch Meithrin.
- Cynllun Gweithredol – Mae’r ddogfen yma’n esbonio sut mae’r Cylch Meithrin yn gweithredu o ddydd i ddydd.
- Canllaw Covid-19 – Canllaw o ddogfennau i gynghori cylchoedd yn ystod cyfnod Covid-19