Mae’r flwyddyn yswiriant yn rhedeg rhwng Medi 14 a Medi 13 bob blwyddyn.
Ar ôl proses tendro mae’r darparwr yswiriant ar gyfer y 3 blynedd nesaf wedi newid o Zurich Municipal i Victor (trwy Rees Astley).
Fel llynedd mae’r mynediad i linell gymorth Adnoddau Dynol trwy gwmni DAS ar gael i bawb ac yn cael ei ddarparu trwy’r yswiriant ‘Costau Cyfreithiol’ o dan y polisi. Dyma’r wybodaeth mae angen trosglwyddo i’r cwmni wrth gysylltu i dderbyn cyngor ganddynt:
I Wneud Hawliad a Llinell Gymorth Cyngor Cyfreithiol: 0344 893 0859; Llinell Cwnsela a Chyngor Meddygol: 0344 893 9012; E-bost: legaladvicesupport@das.co.uk; Rhif Cyfeirnod: TS5/6930345 Victor Insurance
Ffurflen ar lein i ofyn am alwad cyngor cyfreithiol yn ôl: https://www.dasinsurance.co.uk/request-legal-advice
Yn ogystal â’r llinell gymorth AD mae sawl llinell gymorth arall ar gael trwy’r polisi, rhain wedi eu rhestri ar dudalennau 2 a 3 o’r geiriad policy llawn isod.
Gweithdrefn Hawliadau – Eiddo
• Tynnwch luniau o’r difrod
• Llenwch y ffurflen hawlio
• Cael amcangyfrifon ar gyfer amnewid / atgyweirio
• Anfonwch yr uchod ynghyd â derbynebau’r archebion gwreiddiol, os ydynt ar gael
Gweithdrefn Hawliadau – Atebolrwydd Cyhoeddus
• Llenwch y ffurflen hawlio
• Anfonwch yr uchod ynghyd ag unrhyw ohebiaeth a dderbynnir gan yr hawlydd
Gweithdrefn Hawliadau – Atebolrwydd Cyflogwr
• Llenwch y ffurflen hawlio a’i hanfon ymlaen ynghyd â chymaint o’r canlynol ag sy’n berthnasol
• Cofnod Llyfr Damweiniau
• Adroddiad Cymorth Cyntaf
• Cofnod llawfeddygaeth
• Adroddiad damwain y fforman neu oruchwyliwr
• Adroddiad damwain y Cynrychiolydd Diogelwch
• Adroddiad RIDDOR
• Asesiad Risg Perthnasol a thystiolaeth o gyfathrebu â’r hawlydd
• Manylion yr Offer Amddiffynnol Personol a ddarparwyd a thystiolaeth eu bod wedi cael eu derbyn gan yr hawlydd
• Tystiolaeth o enillion yr hawlydd – 13 wythnos cyn y ddamwain ac am y cyfnod y maent yn absennol o’r gwaith ar ôl y ddamwain
• Dogfennau a restrir uchod yn ymwneud ag unrhyw ddigwyddiad blaenorol a nodwyd gan yr hawlydd fel prawf o esgeulustod
E-bostiwch ddogfennau hawlio at aber@reesastley.co.uk. Ar gyfer pob math arall o hawliad, neu ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â Nigel Kennedy yn Rees Astley ar 01970 624261.
Gweler isod am eiriad llawn y polisïau, tystysgrifau cyfredol, ffurflenni hawlio ynghyd a Chrynodeb o’r Warchodaeth.